Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Tudalen Gymraeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Caerfyrddin / Llambed / Abertawe / Caerdydd

Ni allwn aros i'n myfyrwyr newydd ymuno â ni mewn cwpl o wythnosau ar gyfer digwyddiadau Croeso ac Wythnos y Glas 🙌Peidi...
08/09/2026

Ni allwn aros i'n myfyrwyr newydd ymuno â ni mewn cwpl o wythnosau ar gyfer digwyddiadau Croeso ac Wythnos y Glas 🙌

Peidiwch ag anghofio eich hanfodion myfyrwyr✨

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu wythnos nesaf i'n Nosweithiau Agored! 👋⭐ Dyma ychydig o awgrymiadau defnyddiol r...
05/09/2026

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu wythnos nesaf i'n Nosweithiau Agored! 👋

⭐ Dyma ychydig o awgrymiadau defnyddiol rydym yn argymell eu dilyn cyn ymweld â ni! ⭐

👉 Ymchwiliwch opsiynau cyrsiau posib. Bydd hyn yn rhoi syniad da i chi o bwy yr hoffech siarad â nhw ar y noson.

👉 Gwnewch restr o unrhyw gwestiynau sydd gennych. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn cael yr holl atebion sydd eu hangen arnoch ar y noson. (Ond peidiwch â phoeni – gallwch gysylltu â ni ar ôl y digwyddiad os byddwch yn meddwl am gwestiynau newydd!)

Dim ond wythnos sydd i fynd nes i ni eich croesawu i'n campws SA1 yn Abertawe ar gyfer noson llawn gwybodaeth yn ein Nos...
03/09/2026

Dim ond wythnos sydd i fynd nes i ni eich croesawu i'n campws SA1 yn Abertawe ar gyfer noson llawn gwybodaeth yn ein Noson Agored. 🎉

🎟️ Gallwch archebu eich lle drwy chwilio am Ddiwrnodauu Agored PCYDDS ar ein gwefan.

Mae ein tîm Recriwtio Myfyrwyr Allgymorth yn barod am flwyddyn arall llawn digwyddiadau! 🤗Dyma enghraifft o beth gall y ...
02/09/2026

Mae ein tîm Recriwtio Myfyrwyr Allgymorth yn barod am flwyddyn arall llawn digwyddiadau! 🤗

Dyma enghraifft o beth gall y tîm ei gynnig, cysylltwch drwy [email protected] i archebu sesiwn. ✉️

Dim ond wythnos i fynd tan ein Noson Agored yng Nghaerfyrddin! 🎉⏳ Mae amser o hyd i archebu eich lle! 🔎 Chwiliwch am Ddi...
01/09/2026

Dim ond wythnos i fynd tan ein Noson Agored yng Nghaerfyrddin! 🎉

⏳ Mae amser o hyd i archebu eich lle!
🔎 Chwiliwch am Ddiwrnodau Agored PCYDDS.

Croeso cynnes i'n myfyrwyr TAR newydd - sy’n mynychu digwyddiad croeso cyntaf y flwyddyn academaidd newydd 🙌 Rydym wrth ...
01/09/2026

Croeso cynnes i'n myfyrwyr TAR newydd - sy’n mynychu digwyddiad croeso cyntaf y flwyddyn academaidd newydd 🙌

Rydym wrth ein bodd bod carfan newydd yn ymuno â PCYDDS, gan ddechrau ar eu taith i ddod yn athrawon cymwysedig.

Diddordeb mewn dod yn athro eich hun? Beth amdani flwyddyn nesaf? Ewch i'n gwefan a chofrestru ar ddigwyddiad agored a gynhelir yn fuan i ddarganfod rhagor 🔗

Dyma beth i'w ddisgwyl yn un o nosweithiau agored PCYDDS! 🤩✅ Yn gyntaf, cewch eich croesawu gan naill ai ein Tîm Recriwt...
30/08/2026

Dyma beth i'w ddisgwyl yn un o nosweithiau agored PCYDDS! 🤩

✅ Yn gyntaf, cewch eich croesawu gan naill ai ein Tîm Recriwtio Myfyrwyr neu ein Llysgenhadon Myfyrwyr cyfeillgar, a fydd yn eich cofrestru chi ac yn rhannu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer noson agored lwyddiannus.

ℹ️ Yna, y prif ddigwyddiad yw ein ffeiriau wybodaeth – un yn canolbwyntio ar feysydd academaidd i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych yn benodol am y cwrs, a'r llall yn canolbwyntio ar ein gwasanaethau i fyfyrwyr i ateb unrhyw gwestiynau eraill a allai fod gennych.

❓ Mae'r holl staff a'r llysgenhadon wrth law i helpu gydag unrhyw ymholiadau neu i'ch cyfeirio at y man cywir, felly peidiwch â bod ofn gofyn!

🔗 I archebu eich lle yn un o'n Digwyddiadau Agored, ewch i dudalen Diwrnodau Agored PCYDDS ar ein gwefan!

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn dy freuddwydion. ✨Ar ôl treulio dwy flynedd yn gweithio tu ôl i ddesg, penderfynodd ...
29/08/2026

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn dy freuddwydion. ✨

Ar ôl treulio dwy flynedd yn gweithio tu ôl i ddesg, penderfynodd Emily ei fod yn amser am newid. Cysylltodd â PCYDDS trwy Glirio a dechrau ar daith greadigol newydd yn astudio BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau.

Heddiw, mae hi’n arddangos ei gwaith ledled y byd ac yn adeiladu gyrfa yn y diwydiant dylunio.

Yng ngeiriau Emily:
“Ar Ddiwrnod Clirio, fe wnes i anfon e-bost at Georgia McKie, Cyfarwyddwr y Rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Cawsom gyfweliad anffurfiol dros y ffôn gan drafod hanes fy addysg, ac fe ddywedodd bopeth wrthyf am y cwrs. Roeddwn i mor gyffrous i ddechrau’r daith newydd hon. Y diwrnod hwnnw, cefais fy nerbyn i astudio yn y brifysgol, a dyna ni! Mae fy nhaith yn destament i sylweddoli nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn eich breuddwydion.

P’un a wyt ti’n newid gyrfa, yn dychwelyd i addysg neu’n gwneud cais yn hwyrach na’r disgwyl, efallai mai Clirio yw’r cyfle rwyt ti wedi bod yn ei aros.

Dysga ragor am BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau ac i ble y gall fynd â thi.

💭 Ydych chi’n ymuno a Gampws Caerfyrddin mis Medi yma?   💭 Eisiau cwrdd â myfyrwyr eraill Cymraeg mewn digwyddiad unigry...
28/08/2026

💭 Ydych chi’n ymuno a Gampws Caerfyrddin mis Medi yma?

💭 Eisiau cwrdd â myfyrwyr eraill Cymraeg mewn digwyddiad unigryw?

🎉 Dyma’n cyflwyno Penwythnos y Glas! 🎉

Penwythnos llawn cymdeithasu ar gyfer siaradwyr Cymraeg Campws Caerfyrddin.

✉️ I gofrestru neu am fwy o fanylion cysylltwch a Sian Dickie (ein Swyddog Cangen) ar [email protected]

🔗 Dilynwch y linc i gofrestru

https://forms.cloud.microsoft/pages/responsepage.aspx?id=-REPTm4EBUWcuNshUjEeIaAwf3KC-0JHtijHqklYWqlUQUhKUlFDTlZOWk1ZUVk5OVlHWkFDOVZGWC4u&route=shorturl

Cymera dy arfer creadigol i’r lefel nesaf gydag MA Deialogau Cyfoes. Mae ein portffolio ôl-raddedig yn cynnig amgylchedd...
27/08/2026

Cymera dy arfer creadigol i’r lefel nesaf gydag MA Deialogau Cyfoes.

Mae ein portffolio ôl-raddedig yn cynnig amgylchedd dysgu rhyngddisgyblaethol unigryw, gyda mynediad at weithdai, cyfleusterau ac arbenigedd ar draws Coleg Celf Abertawe.

P’un a wyt ti’n awyddus i wthio dy arfer presennol i gyfeiriad newydd, arbrofi gyda phrosesau newydd neu ddatblygu dy syniadau trwy gydweithio, mae’r MA Deialogau Cyfoes yn rhoi lle i ti archwilio beth sydd nesaf.

Archwilia ein llwybrau ôl-raddedig:

• MA Celf Gain
• MA Dylunio Graffig
• MA Darlunio
• MA Ffotograffiaeth
• MA Delweddau Symudol
• MA Cyfathrebu Gweledol
• MA Tecstilau
• MA Crefftau Dylunio
• MA Dylunio
• MA Gwydr

🔎 Chwilia am Ddeialogau Cyfoes PCYDDS i ddysgu rhagor.

-raddedig

Address

Abertawe
Abertawe
LLAMBED

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share