Academi Hywel Teifi

Academi Hywel Teifi Sefydliad arbennig iawn a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am gyn-Athro Cymraeg y brifysgol ac un o fawrion y genedl.

Tra bod yr Academi’n gartref i dîm creiddiol o staff mae hefyd yn darparu cymuned ar gyfer pawb sy’n cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol ac i’r miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma. Mae’r canlynol wedi eu lleoli yn neu eu harwain gan yr Academi:
- Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe
- Cangen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Uned Cydymffurfiaeth Iaith a Chyfieithu
- Tŷ’r Gwrhyd

🌍🗣️ Defnyddia dy Gymraeg i agor drysau i'r byd! 🗣️🌍Ydych chi'n angerddol am ieithoedd, cyfathrebu a'r Gymraeg? Beth am y...
18/06/2026

🌍🗣️ Defnyddia dy Gymraeg i agor drysau i'r byd! 🗣️🌍

Ydych chi'n angerddol am ieithoedd, cyfathrebu a'r Gymraeg?

Beth am ystyried yr MA mewn Cyfieithu a Chyfathrebu Rhyngddiwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe o fis Medi 2026?

Wrth i dechnolegau fel Deallusrwydd Artiffisial (AI) drawsnewid y diwydiant ieithoedd, mae'r galw am weithwyr proffesiynol sy'n gallu cyfuno sgiliau ieithyddol, cyfathrebu rhyngddiwylliannol a thechnoleg yn cynyddu. Bydd y rhaglen hon yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn sector sy'n datblygu'n gyflym.

Gallwch astudio hyd at 100 credyd o'r cwrs yn Gymraeg, gan roi'r cyfle i chi ddatblygu sgiliau academaidd a phroffesiynol gwerthfawr yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Pam dewis y rhaglen hon?
✔️ Llwybrau Cyfieithu Proffesiynol a Thechnoleg neu Gyfieithu ar y Pryd
✔️ Profiad o ddefnyddio offer a meddalwedd safonol y diwydiant
✔️ Cyfle i archwilio technolegau iaith, lleoleiddio a thrawsgreu
✔️ Opsiwn i wneud Interniaeth 12 wythnos yn lle traethawd hir
✔️ Cyfle i gyfuno'r Gymraeg gyda ieithoedd fel Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Arabeg, Tsieineeg ac Eidaleg
✔️ Astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser

🎓 P'un a wyt ti'n awyddus i fod yn gyfieithydd, yn gyfieithydd ar y pryd, yn arbenigwr technoleg iaith neu'n rheolwr prosiectau ieithyddol, bydd y cwrs hwn yn dy baratoi ar gyfer gyrfa fyd-eang mewn maes sy'n newid ac yn datblygu'n gyflym.

Dysgwch fwy yma ➡️ https://www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/addysgir/diwylliant-chyfathrebu/ieithoedd-modern-cyfieithu-cyfieithu-pryd/cyfieithu-chyfathrebu-rhyngddiwylliannol/

18/06/2026

🌟 Noson arbennig yng Ngwobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghaerdydd neithiwr.

Llongyfarchiadau mawr i Emily Evans Prifysgol Abertawe Cymraeg Abertawe, ar ennill Gwobr Merêd 2026, sy'n cydnabod cyfraniad eithriadol myfyriwr i fywyd a diwylliant Cymraeg.

Mae Emily yn enghraifft wych o'r gwahaniaeth y gall un unigolyn ei wneud. Dros y blynyddoedd, mae Emily wedi rhoi o'i hamser, ei hegni a'i brwdfrydedd yn hael i gefnogi eraill a mentrau cymunedol amrywiol. Trwy ei gwaith fel llysgennad i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ei chyfraniad at addysgu a mentora myfyrwyr, ei gwaith yng Nghanolfan Gymraeg Tŷ'r Gwrhyd a thros Eisteddfod Cwm Tawe, a'i rôl allweddol yn sefydlu a datblygu Aelwyd yr Elyrch, mae wedi cyfrannu'n sylweddol at gryfhau'r Gymraeg fel iaith fyw o fewn y Brifysgol ac yn yr ardal ehangach gan helpu i greu cymuned Gymraeg gynhwysol, groesawgar a llewyrchus.

Mae'n arbennig o braf gweld mai Emily yw'r chweched enillydd o Brifysgol Abertawe ers sefydlu'r wobr hon yn 2015. Rydym ni oll ym Mhrifysgol Abertawe yn falch tu hwnt o Emily ac yn ddiolchgar iddi am ei chyfraniad. Rwyt ti'n seren 🌟

Yn anffodus, nid oedd modd i Emily fod yn bresennol yn y seremoni neithiwr. Dyma ei neges fideo yn diolch am y gydnabyddiaeth arbennig hon. 💛🖤🏆🖤💛

🎓 Diddordeb mewn gyrfa addysgu cyfrwng Cymraeg?📚Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynghylch cefnogaeth a chyllid i hyfforddi...
16/06/2026

🎓 Diddordeb mewn gyrfa addysgu cyfrwng Cymraeg?📚

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynghylch cefnogaeth a chyllid i hyfforddi athrawon yng Nghymru, does dim amser gwell i ystyried cam tuag at yrfa sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn.

Beth am astudio ar gyfer Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) ym Mhrifysgol Abertawe?

DIGWYDDIAD AGORED RHITHIOL TAR CYNRADD A TAR UWCHRADD

📆 Dydd Mawrth, 30 Mehefin
🕕 3.00pm – 4.00pm
📍 Ar-lein

Dewch i ddysgu mwy am y cyrsiau, y profiad hyfforddi, y cyfleoedd gyrfa a'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n dymuno addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

I gofrestru:
TAR Uwchradd: [email protected]
TAR Cynradd: [email protected]

🎓 Dim ond ychydig ddyddiau i fynd....Peidiwch â cholli'r cyfle i ddysgu sut gall y Gymraeg gyfoethogi eich profiad prify...
10/06/2026

🎓 Dim ond ychydig ddyddiau i fynd....

Peidiwch â cholli'r cyfle i ddysgu sut gall y Gymraeg gyfoethogi eich profiad prifysgol!

Dewch i'n Sesiwn Galw Heibio Cymraeg yn ystod y Diwrnod Agored i ofyn cwestiynau a dysgu am y cymorth, yr ysgoloriaethau a'r cyfleoedd unigryw sydd ar gael i chi.

💬 Dim cyflwyniadau ffurfiol – dim ond sgwrs, paned a chyfle i ddysgu mwy!

📍 Gofod Dysgu Myyfrwyr, Techniwm Digidol, Campws Singleton
⏰ 9.30am–3.00pm

Wyt ti wedi cofrestru ar gyfer y Sesiwn Galw Heibio Cymraeg sy'n digwydd yn ystod ein Diwrnod Agored ddydd Sadwrn nesaf?

📆 Dydd Sadwrn, 13eg Mehefin, 2026
⏰ 9.30pm - 3.00pm
📍 Adeilad Techniwm Digidol, Campws Singleton

Dere draw i'r Sesiwn Galw Heibio Cymraeg yn Adeilad Techniwm Digidol ar gampws Singleton unrhyw bryd rhwng 9.30am a 3.00pm i glywed mwy am y ddarpariaeth Gymraeg a'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyriwr cyfrwng Cymraeg!

I gofrestru ar gyfer y sesiwn, cer i ➡️
https://www.tickettailor.com/events/swanseauniversity1/2206177

Wyt ti wedi cofrestru ar gyfer y Sesiwn Galw Heibio Cymraeg sy'n digwydd yn ystod ein Diwrnod Agored ddydd Sadwrn nesaf?...
08/06/2026

Wyt ti wedi cofrestru ar gyfer y Sesiwn Galw Heibio Cymraeg sy'n digwydd yn ystod ein Diwrnod Agored ddydd Sadwrn nesaf?

📆 Dydd Sadwrn, 13eg Mehefin, 2026
⏰ 9.30pm - 3.00pm
📍 Adeilad Techniwm Digidol, Campws Singleton

Dere draw i'r Sesiwn Galw Heibio Cymraeg yn Adeilad Techniwm Digidol ar gampws Singleton unrhyw bryd rhwng 9.30am a 3.00pm i glywed mwy am y ddarpariaeth Gymraeg a'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyriwr cyfrwng Cymraeg!

I gofrestru ar gyfer y sesiwn, cer i ➡️
https://www.tickettailor.com/events/swanseauniversity1/2206177

01/06/2026

💛🖤

💛🖤 Llongyfarchiadau mawr i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar ddathlu 15 mlynedd! 🎉Ers ei sefydlu, mae'r Coleg wedi bod yn ...
01/06/2026

💛🖤 Llongyfarchiadau mawr i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar ddathlu 15 mlynedd! 🎉

Ers ei sefydlu, mae'r Coleg wedi bod yn sbardun allweddol i gryfhau ac ehangu addysg uwch cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

Hoffai Prifysgol Abertawe ddiolch am flynyddoedd o gydweithio gwerthfawr, am y gefnogaeth barhaus, ac am yr arweiniad sydd wedi helpu miloedd o fyfyrwyr i astudio, ffynnu a llwyddo drwy'r Gymraeg 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Diwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd 😭 Ond dewch i godi eich calon gyda gweithgareddau'r GwyddonLe! Diolch am Eisteddfod wych...
29/05/2026

Diwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd 😭 Ond dewch i godi eich calon gyda gweithgareddau'r GwyddonLe!

Diolch am Eisteddfod wych, Ynys Môn.
Tan flwyddyn nesa 🙌 🔴 ⚪ 🟢

Mae'r gwyddonwyr yn dal i ysbrydoli ac yn y GwyddonLe i danio'ch dychymyg ⚡✨👨🏿‍🔬👩🏾‍🔬🧪
28/05/2026

Mae'r gwyddonwyr yn dal i ysbrydoli ac yn y GwyddonLe i danio'ch dychymyg ⚡✨👨🏿‍🔬👩🏾‍🔬🧪

Ddydd Mercher yn y GwyddonLe! Dysgwch am drydan, chwarae gêm y corff a gweithdy arbennig gyda M-SParc
27/05/2026

Ddydd Mercher yn y GwyddonLe! Dysgwch am drydan, chwarae gêm y corff a gweithdy arbennig gyda M-SParc

Address

Prifysgol Abertawe
Abertawe

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Academi Hywel Teifi posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The University

Send a message to Academi Hywel Teifi:

Share