Academi Hywel Teifi

  • Home
  • Academi Hywel Teifi

Academi Hywel Teifi Sefydliad arbennig iawn a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am gyn-Athro Cymraeg y brifysgol ac un o fawrion y genedl.

Tra bod yr Academi’n gartref i dîm creiddiol o staff mae hefyd yn darparu cymuned ar gyfer pawb sy’n cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol ac i’r miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma. Mae’r canlynol wedi eu lleoli yn neu eu harwain gan yr Academi:
- Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe
- Cangen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Uned Cydymffurfiaeth Iaith a Chyfieithu
- Tŷ’r Gwrhyd

Llongyfarchiadau i griw  🤩 Pencampwyr Rocket League     🎮🚀🙌🏻
24/05/2026

Llongyfarchiadau i griw 🤩 Pencampwyr Rocket League 🎮🚀🙌🏻

Pwy sy’n dod i gystadlu yn y Twrnamaint Esports Wales Prifysgol Abertawe yn Gwyddonle Eisteddfod yr Urdd Eisteddfod yr U...
23/05/2026

Pwy sy’n dod i gystadlu yn y Twrnamaint Esports Wales Prifysgol Abertawe yn Gwyddonle Eisteddfod yr Urdd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 heddiw? Timoedd o 3 i gofrestru bore ‘ma - dewch draw nawr i gofrestru? Twrnamaint yn dechrau tua 11.30am 🎮🕹️🚀

🚀🎮 Twrnamaint Rocket League yn y GwyddonLe! 🎮🚀

Bydd wythnos y GwyddonLe yn dechrau ychydig yn wahanol eleni, gyda phartneriaeth arbennig rhwng Prifysgol Abertawe, Esports Wales ac Eisteddfod yr Urdd.

Yn lle’r stondinau arferol dros y penwythnos agoriadol, bydd Twrnamaint Rocket League gwefreiddiol yn cael ei gynnal yn y GwyddonLe ar Faes Eisteddfod yr Urdd ar ddydd Sadwrn, 23 Mai a dydd Sul, 24 Mai!! 🏆

🔥 Beth sydd ar gael?
👉 Cystadleuaeth arbennig rhwng timau
👉 Tlws, medalau a gwobrau i’w hennill
👉 Cyfle i weld y gorau o fyd esports Cymru

🎤 Cyflwynydd y Twrnamaint
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Lendoth, un o gyflwynwyr a chrëwr cynnwys mwyaf poblogaidd y byd esports yng Nghymru!

🐐 Gwesteion arbennig
Bydd tîm Goats Esports gyda ni drwy gydol dydd Sadwrn a dydd Sul.

Sut i gymryd rhan?
🕹️ Agored i bob ysgol
👥 Timau o 3 disgybl
🏆 Tlws, medalau a gwobrau i’w hennill
📍 GwyddonLe, Maes yr Urdd, Cae Sioe Môn
⏰ Cofrestru rhwng 9yb a 11yb ar fore’r digwyddiad (Dydd Sadwrn, 23 Mai a dydd Sul, 24 Mai!)

🎮 Bydd y gemau’n cael eu chwarae a’u cwblhau ar yr un diwrnod

🚀 Dewch draw i’r GwyddonLe, cofrestrwch eich tîm, a phrofwch eich sgiliau am gyfle i ennill gwobrau gwych!

Edrychwch ar y map i weld lleoliad GwyddonLe Prifysgol Abertawe 🔴⚪️🟢 Welwn ni chi yn Ynys Môn 😁
20/05/2026

Edrychwch ar y map i weld lleoliad GwyddonLe Prifysgol Abertawe 🔴⚪️🟢

Welwn ni chi yn Ynys Môn 😁

20/05/2026

🔴⚪️🟢 Rydym yn llawn cyffro ac yn edrych ymlaen yn arw at Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn eleni 🔴⚪️🟢

Bydd criw Prifysgol Abertawe yn y GwyddonLe drwy gydol yr wythnos ac mae'r wythnos yn dechrau ychydig yn wahanol i'r arfer eleni!

Mwy o wybodaeth am arlwy'r GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 ar gael yma: https://www.swansea.ac.uk/cy/academi-hywel-teifi/newyddion/gwyddonle-26/

Gwyliwch y fideo i weld uchafbwyntiau GwyddonLe 2025 🧬🔬💉🩺🩻🦠

Diddordeb mewn gyrfa addysgu cyfrwng Cymraeg?Beth am astudio ar gyfer cymhwyster Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)? ...
19/05/2026

Diddordeb mewn gyrfa addysgu cyfrwng Cymraeg?

Beth am astudio ar gyfer cymhwyster Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)?

DIGWYDDIAD AGORED RHITHIOL TAR CYNRADD A TAR UWCHRADD
Prifysgol Abertawe

📆 Dydd Mawrth, 30 Mehefin
🕕 3.00pm – 4.00pm
📍 Digwyddiad ar-lein

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â;

TAR Uwchradd: [email protected]
TAR Cynradd: [email protected]

📢 GWAHODD CEISIADAU - YSGOLORIAETH PhD AM Y WLADFA  Mae Prifysgol Abertawe Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National L...
19/05/2026

📢 GWAHODD CEISIADAU - YSGOLORIAETH PhD AM Y WLADFA
Mae Prifysgol Abertawe Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales Amgueddfa Cymru yn gwahodd ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg ar gyfer Ysgoloriaeth PhD wedi ei cyllido yn llawn!

Dyddiad cau: 22 Mai 2026

PhD Hanes, Treftadaeth: Ymchwil PhD arloesol i ddatgelu’r lleisiau coll a chreu dealltwriaeth fwy cynhwysol o un o benodau pwysicaf hanes Cymru.

Manylion yma: https://www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ysgoloriaethau/ysgoloriaethau-ymchwil-/history-ahrc-history-museum-wales-2026-rs950.php

🚀🎮 Twrnamaint Rocket League yn y GwyddonLe! 🎮🚀Bydd wythnos y GwyddonLe yn dechrau ychydig yn wahanol eleni, gyda phartne...
12/05/2026

🚀🎮 Twrnamaint Rocket League yn y GwyddonLe! 🎮🚀

Bydd wythnos y GwyddonLe yn dechrau ychydig yn wahanol eleni, gyda phartneriaeth arbennig rhwng Prifysgol Abertawe, Esports Wales ac Eisteddfod yr Urdd.

Yn lle’r stondinau arferol dros y penwythnos agoriadol, bydd Twrnamaint Rocket League gwefreiddiol yn cael ei gynnal yn y GwyddonLe ar Faes Eisteddfod yr Urdd ar ddydd Sadwrn, 23 Mai a dydd Sul, 24 Mai!! 🏆

🔥 Beth sydd ar gael?
👉 Cystadleuaeth arbennig rhwng timau
👉 Tlws, medalau a gwobrau i’w hennill
👉 Cyfle i weld y gorau o fyd esports Cymru

🎤 Cyflwynydd y Twrnamaint
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Lendoth, un o gyflwynwyr a chrëwr cynnwys mwyaf poblogaidd y byd esports yng Nghymru!

🐐 Gwesteion arbennig
Bydd tîm Goats Esports gyda ni drwy gydol dydd Sadwrn a dydd Sul.

Sut i gymryd rhan?
🕹️ Agored i bob ysgol
👥 Timau o 3 disgybl
🏆 Tlws, medalau a gwobrau i’w hennill
📍 GwyddonLe, Maes yr Urdd, Cae Sioe Môn
⏰ Cofrestru rhwng 9yb a 11yb ar fore’r digwyddiad (Dydd Sadwrn, 23 Mai a dydd Sul, 24 Mai!)

🎮 Bydd y gemau’n cael eu chwarae a’u cwblhau ar yr un diwrnod

🚀 Dewch draw i’r GwyddonLe, cofrestrwch eich tîm, a phrofwch eich sgiliau am gyfle i ennill gwobrau gwych!

🎮 Ydy eich ysgol chi’n barod am her Rocket League yn Eisteddfod yr Urdd? 🎮Bydd Esports Wales mewn partneriaeth â Prifysg...
07/05/2026

🎮 Ydy eich ysgol chi’n barod am her Rocket League yn Eisteddfod yr Urdd? 🎮

Bydd Esports Wales mewn partneriaeth â Prifysgol Abertawe yn cynnal Twrnamaint Rocket League cyffrous yn y GwyddonLe ar Faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Sadwrn, 23 Mai a dydd Sul, 24 Mai! 🚀

🕹️ Agored i bob ysgol
👥 Timau o 3 disgybl
🏆 Tlws, medalau a gwobrau i’w hennill
📍 GwyddonLe, Maes yr Urdd, Cae Sioe Môn
⏰ Cofrestru rhwng 9yb a 11yb ar fore’r digwyddiad (Dydd Sadwrn, 23 Mai a dydd Sul, 24 Mai!)

Dyma gyfle gwych i’ch disgyblion gystadlu, cydweithio a chynrychioli’ch ysgol mewn awyrgylch llawn hwyl a chyffro!

📣 Dewch i ymuno â’r gystadleuaeth - pwy fydd pencampwyr Rocket League yr Urdd 2026? 🎮 💥

Urdd Gobaith Cymru Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 Urdd Eryri Urdd FFAW - Fflint a Wrecsam Urdd Meirionnydd Urdd Ynys Môn Urdd Sir Ddinbych Urdd Rhanbarth Maldwyn

Llongyfarchiadau i'r disgyblion fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus Her Sefydliad Morgan eleni 👏Daw'r ...
28/04/2026

Llongyfarchiadau i'r disgyblion fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus Her Sefydliad Morgan eleni 👏

Daw'r disgyblion o Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Bryn Tawe ac Ysgol Y Fro 🙌

Testun eleni yw: 'Dylai'r GIG gynnig gofal iechyd yn Gymraeg yn rhagweithiol i bawb yng Nghymru' a'r beirniaid fydd Dr Alwena Morgan o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac Owain Clarke, Gohebydd Iechyd BBC Cymru Wales

📣 Dewch i wylio'r gystadleuaeth yn y GwyddonLe Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun, 25 Mai, 12 hanner dydd. 🤩

Ddoe ar raglen Aled Hughes, BBC Radio Cymru, roedd Miriam Elin Kerslake Jones o Cymraeg Abertawe yn trafod a oes rhaid i...
22/04/2026

Ddoe ar raglen Aled Hughes, BBC Radio Cymru, roedd Miriam Elin Kerslake Jones o Cymraeg Abertawe yn trafod a oes rhaid i’r wyddoniaeth mewn ffuglen wyddonol fod yn gywir. Dr Miriam Jones yw Pennaeth Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe a’i harbenigedd yw ffuglen wyddonol 🚀✨ Dolen i wrando yn ein stori 😊

📣 CYFLE I FYFYRWYR PPrifysgol AbertaweByddwch yn Fentor Iaith & Diwylliant ar gyfer 2026-27!Ydych chi’n dwlu ar bob peth...
20/04/2026

📣 CYFLE I FYFYRWYR PPrifysgol AbertaweByddwch yn Fentor Iaith & Diwylliant ar gyfer 2026-27!

Ydych chi’n dwlu ar bob peth sy’n ymwneud â ieithoedd a diwylliant?! Os felly, dewch i ymuno â Mentora ITM!

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i wneud cais erbyn 1 o Fai: https://mfl.fra1.qualtrics.com/jfe/form/SV_6A8bID5ZOHnlHHo

Mae Mentora ITM yn recriwtio a hyfforddi myfyrwyr prifysgol o arbenigedd pynciol amrywiol sydd â diddordeb a brwdfrydedd am ieithoedd a diwylliant! Does dim angen i chi fod yn astudio iaith i wneud cais.

Byddwch chi'n hyrwyddo manteision amlieithrwydd drwy sesiynau mentora gyda grŵp bach o ddysgwyr rhwng 12-14 oed mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae’r rôl yma yn cynnwys bwrsari hyd at £250, yn ogystal a’r cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy proffesiynol y gallwch chi ddefnyddio yn eich dyfodol, profiad proffesiynol yn yr ystafell ddosbarth a bod yn rhan o gymdeithas â'r un meddylfryd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch y tîm Mentora ITM ar [email protected].

Address

Prifysgol Abertawe

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Academi Hywel Teifi posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The University

Send a message to Academi Hywel Teifi:

  • Want your university to be the top-listed University?

Share