27/04/2026
Ebyst sy'n crynhoi eich cyfrif llyfrgell / Library borrowing summary emails
I helpu i leihau annibendod yn eich mewnflwch, ni fyddwn bellach yn anfon y crynodeb o’ch cyfrif llyfrgell atoch drwy ebost bob mis.
Gallwch wirio pa eitemau sydd gennych ar fenthyg ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi i Primo, catalog y llyfrgell. Mae gwybodaeth ar sut i wneud hyn ar gael yma:
https://faqs.aber.ac.uk/cy/1048
Da gwybod:
Mae’r rhan fwyaf o fenthyciadau llyfrau yn adnewyddu’n awtomatig, am hyd at 12 mis.
Os bydd defnyddiwr arall yn gofyn am eitem sydd gennych ar fenthyg, byddwn yn anfon e-bost atoch i’ch hysbysu!
//
To help reduce inbox clutter, we’ll no longer be sending out the monthly library borrowing summary email.
You can check what items you currently have on loan at any time by logging into Primo, the library catalogue. Find out how to do this here: https://faqs.aber.ac.uk/en/1048
Good to know:
Most book loans renew automatically, for up to 12 months.
If an item you have on loan is requested by another user, we’ll email you to let you know!