Geiriadur Prifysgol Cymru

Geiriadur Prifysgol Cymru Geiriadur Prifysgol Cymru yw unig eiriadur Cymraeg hanesyddol safonol yr iaith Gymraeg. Mae ar gael Dechreuodd cynllun i baratoi'r Geiriadur ym 1921.

Casglwyd dros 2.5 miliwn o enghreifftiau a dechrau golygu'r gwaith ddiwedd yr 1940au. Cyhoeddwyd y rhan gyntaf o 61 yn 1950, a'r olaf yn 2002. Yn 2003 decreuwyd ailogygu'r Geiriadur gan ychwanegu llawer mwy o wybodaeth i bob erthygl. Yn 2010 penderfynwyd cyhoeddi'r Geiriadur ar lein. Mae ar gael mewn print (heb yr ychwanegiadau diweddar) ac ar lein (http://gpc.cymru) ac fel apiau Android, iOS, ac

Amazon Fire (http://www.geiriadur.ac.uk/apiau-android-ac-ios/). Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull a’i gwmpas â’r Oxford English Dictionary. Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith Gymraeg o’r testunau Hen Gymraeg cynharaf, drwy lenyddiaeth doreithiog y cyfnodau Canol a Modern, hyd at y cynnydd aruthrol yn yr eirfa sy’n deillio o’r defnydd ehangach o’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd yr hanner canrif diwethaf. Diffinnir yr eirfa hon yn Gymraeg, ond rhoddir cyfystyron Saesneg yn ogystal. Rhoddir sylw manwl i ffurfiau amrywiol, cyfuniadau, a tharddiad geiriau. Ychwanegir geiriau newydd at y Geiriadur yn barhaus. Hoffem glywed gennych drwy [email protected] am eiriau newydd ac am unrhyw wallau yn y gwaith.

Gair y dydd: mwd https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc082081Mae'n bosib mai benthyciad yw mwd o'r Saesneg Canol 'vout...
04/09/2026

Gair y dydd: mwd https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc082081
Mae'n bosib mai benthyciad yw mwd o'r Saesneg Canol 'voute' ('vault'), a gall olygu nenfwd neu do bwaog, canopi neu fwa, seler neu ddaeargell â tho bwaog iddo.
Sylwer mai'r un 'mwd' sy'n digwydd yn ail elfen y gair 'nenfwd'.

Peidiwch â chymysgu'r gair hwn â mẁd (am laid a llaca) neu mwd (am 'mood').

Word of the day: mwd (vault) https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc082081 Possibly a word borrowed from the Middle English 'voute' (vault), it can mean a vaulted ceiling or roof, a canopy, an arch or a cellar. 'Mwd' is found in the second element of the word 'nenfwd' (ceiling).

Not to be confused with the Welsh word for mud and dirt, 'mẁd', or mood, 'mwd'.

Gair y dydd: MACHLUD https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?machludDisgrifia MACHLUD (gynt YMACHLUDD) weithred yr haul yn ...
02/09/2026

Gair y dydd: MACHLUD https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?machlud

Disgrifia MACHLUD (gynt YMACHLUDD) weithred yr haul yn mynd i lawr ac yn ymguddio am y nos cyn codi drannoeth yn y DWYRAIN. Ystyr yr hen ferf dwyre/dwyrain oedd ‘codi’.

🌅. 🌅. 🌅. 🌅

Word of the day MACHLUD ‘sunset’ https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?machlud

MACHLUD (formerly YMACHLUDD) describes the sun setting in the west, disappearing from view for the night before rising again in the DWYRAIN ‘east’. The old verb dwyre/dwyrain meant ‘to rise’.

Gair y dydd: arwain https://www.welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html?arwain Mae'r bachgen bach yn 'cyfarwyddo cwrs' y gas...
27/08/2026

Gair y dydd: arwain https://www.welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html?arwain Mae'r bachgen bach yn 'cyfarwyddo cwrs' y gaseg â thennyn. A wyddoch fod y gair hefyd yn golygu 'cludo, cario'? Darllenwch yr erthygl yn GPC i ganfod yr holl ystyron.

Gair y dydd: arwain (to lead) https://www.welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html?arwain The little boy in the picture is leading the mare with a lead-rope. The word also means 'to carry, bear' and 'to behave (properly)'. Take a look at the Dictionary article to see more.

Gair y Dydd: crwth halen: https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?crwth_halen – enw diddorol ar bot halen. Mae enwau eraill...
25/08/2026

Gair y Dydd: crwth halen: https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?crwth_halen – enw diddorol ar bot halen. Mae enwau eraill hefyd, fel cetog halen https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?cetog_halen. Beth fyddwch chi’n ddweud?

Word of the Day: crwth halen: https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?crwth_halen. There are several Welsh terms for a salt cellar, ‘cetog halen’ https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?cetog_halen, is another. Both ‘crwth’ and ‘cetog’ have basket and box as possible meanings.

Address

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
SY233HH

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Geiriadur Prifysgol Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The University

Send a message to Geiriadur Prifysgol Cymru:

Shortcuts

Share