18/06/2026
Sut mae deallusrwydd artiffisial a thechnolegau digidol yn siapio dyfodol ffermio yng Nghymru? 🏴
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor ac yr Countryside and Community Research Institute (CCRI) yn gwahodd ffermwyr, rheolwyr tir a rhanddeiliaid y diwydiant i rannu eu profiadau fel rhan o astudiaeth newydd sy’n archwilio rôl technolegau digidol yn y broses o symud tuag at amaethyddiaeth sero net 🚜
Bydd y prosiect yn edrych ar sut mae offer fel deallusrwydd artiffisial yn cael eu defnyddio yn ymarferol, y cyfleoedd a’r heriau maent yn eu cyflwyno, a pha gymorth gallai fod ei angen i helpu’r sector i wneud y gorau o dechnolegau sy’n datblygu 💻
Mae’r ymchwil yn rhan o raglen Cymru Wledig LPIP Rural Wales a bydd yn helpu i lywio polisïau a chefnogaeth yn y dyfodol ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru 🌾
Darllenwch mwy - https://www.bangor.ac.uk/cy/newyddion/2026-06-18-gwahodd-ffermwyr-cymru-i-rannu-eu-profiad-o-ddeallusrwydd-artiffisial-a