21/05/2026
Profiad Catrin, un o'n cyn-fyfyrwyr ar y cwrs Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid:
Wnes i ddewis y cwrs ym Mhrifysgol Bangor oherwydd roedd gen i ddiddordeb mawr mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ac roeddwn eisiau dysgu mwy am eu datblygiad, eu lles a’r ffyrdd gorau o’u cefnogi.
Y peth gorau am y cwrs oedd cael clywed gan wahanol sefydliadau a gweithwyr proffesiynol am y sector a’r cyfleoedd gwaith oedd ar gael. Trwy hyn, ces i gyfle i gysylltu gyda GISDA ac fe ges i gynnig swydd yno fel Swyddog Gwirfoddoli, ochr yn ochr â fy astudiaethau yn y brifysgol. Roedd hynny’n brofiad gwerthfawr iawn ac wedi rhoi llawer o hyder a sgiliau i mi.
Ar ôl graddio, es i deithio am chwe mis i wledydd yn cynnwys Thailand, Fietnam, Indonesia ac Awstralia. Roedd hynny’n brofiad anhygoel ac fe wnaeth fy helpu fi ddatblygu sgilliau annibynnol a chael profiadau newydd.
Ers dychwelyd adref, rwyf wedi mynd yn ôl i weithio gyda GISDA fel Swyddog Llesiant ac Iechyd Meddwl. Ar ôl cael profiad yn gweithio yn y maes, rwyf hefyd wedi penderfynu datblygu fy ngyrfa ymhellach, ac rwy’n dechrau gradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol ym mis Medi.
Gisda Cyf Prifysgol Bangor Stiwdio Gyrfaoedd, Prifysgol Bangor
Da iawn chdi Catrin! Gwaith caled wedi talu'r ffordd iti. Pob llwyddiant iti.