02/12/2025
In our first-year Explorations in Architectural Design studio, lecturers Dr Melina Guirnaldos Diaz and Erfan Zamanigoldeh ran a paper structures workshop inspired by Josef Albers.
“The session encouraged students to explore alternative approaches to the design process, emphasising Year 1 as a formative stage in which architectural thinking develops through experimentation and opens up multiple ways of thinking and making,” noted Melina.
Erfan said: “I usually run this exercise with master’s students as an early activity in computational design. There’s something great about seeing design curiosity before tools, software, and workflow habits take over. At first glance, it’s just folding paper. But actually, it’s a gentle introduction to parametric form-finding and a way of nudging students towards computational thinking through material exploration. No computers at this stage. Just hands, structure, behaviour, failure, iteration and discovery. And that’s exactly the point.”
___
Yn ein stiwdio Archwiliadau mewn Dylunio Pensaernïol y flwyddyn gyntaf, cynhaliodd y darlithwyr Dr Melina Guirnaldos Diaz ac Erfan Zamanigoldeh weithdy strwythurau papur wedi’i ysbrydoli gan Josef Albers.
“Yn ystod y sesiwn anogwyd myfyrwyr i ystyried dulliau amgen o ymdrin â’r broses ddylunio, gan bwysleisio bod y flwyddyn gyntaf yn gyfnod ffurfiannol lle mae meddwl pensaernïol yn datblygu drwy arbrofi ac yna’n agor sawl ffordd o feddwl a chreu,” eglurodd Melina.
Dywedodd Erfan: “Fel arfer, rwy’n cynnal y gweithgaredd hwn gyda myfyrwyr gradd meistr fel gweithgaredd ar ddechrau dylunio cyfrifiadurol. Mae’n wych gweld chwilfrydedd dylunio cyn i offer, meddalwedd ac arferion llif gwaith gymryd drosodd. Ar yr olwg gyntaf, dim ond plygu papur yw hwn. Ond mewn gwirionedd, mae’n gyflwyniad ysgafn i ganfod ffurfiau parametrig ac yn ffordd o ysgogi myfyrwyr tuag at feddwl cyfrifiadurol drwy ystyried deunyddiau. Does dim cyfrifiaduron yn y cam yma. Dim ond dwylo, strwythur, ymddygiad, methiant, iteriad a darganfyddiad. A dyna’r pwynt.”