Prifysgol De Cymru

Prifysgol De Cymru 🏆 Rhestr fer Prifysgol y Flwyddyn THE 2023
Yn Saesneg:
👉 https://www.facebook.com/UniversityOfSouthWales http://www.twitter.com/unisouthwales

Yn Brifysgol De Cymru rydym yn falch o’n henw da ar gyfer addysg o’r safon uchaf, cyfleusterau rhagorol ac o’n cefnogaeth academaidd wych. http://www.southwales.ac.uk/

Beth am ein dilyn ar twitter?

22/05/2026

Mae ein Diwrnod Agored yn dod â phopeth rydych chi wedi’ ddarllen ar-lein yn fyw🏫✨

Dewch i gwrdd â’r bobl a fydd yn eich dysgu, archwiliwch ein cyfleusterau, a gweld beth sy’n wneud Prifysgol De Cymru yn wahanol🧑‍🏫

Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 13 Mehefin ar gyfer y nesaf🗓️

Edrychwch ar y ddolen yn ein bio💻

15/05/2026

Os ydych chi’n archwilio’ch opsiynau astudio israddedig, dewch draw i’n Diwrnod Agored nesaf👇

🗓️Dydd Sadwrn 13 Mehefin

Gweler ein campysau, dysgwch fwy am ein cyrsiau a rhagwelwch eich dyfodol!🌅

PDC ar frig Cymru o ran busnesau newydd graddedigion am y chweched flwyddynMae Prifysgol De Cymru (PDC) unwaith eto wedi...
11/05/2026

PDC ar frig Cymru o ran busnesau newydd graddedigion am y chweched flwyddyn

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) unwaith eto wedi cadarnhau ei henw da fel prifysgol entrepreneuraidd flaenllaw Cymru, gan gadw ei safle rhif un yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd i raddedigion am y chweched flwyddyn yn olynol, yn ôl y ffigurau diweddaraf a ryddhawyd gan Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Mae data HEBCIS 2024/25 sydd newydd ei gyhoeddi hefyd yn gosod PDC yn seithfed yn y DU o ran nifer y busnesau newydd i raddedigion a sefydlwyd – cyflawniad sy'n tynnu sylw at gryfder parhaus y Brifysgol wrth gefnogi menter ar lefel Cymru a'r DU.

Mae PDC hefyd yn parhau i fod yn y safle cyntaf yng Nghymru o ran cyfanswm nifer y busnesau graddedigion gweithredol, yn bedwerydd yn y DU, gyda 717 o fusnesau dan arweiniad graddedigion yn masnachu ar hyn o bryd – safle sy'n atgyfnerthu ei safle fel 'Prifysgol Entrepreneuraidd Cymru'.

Yn ogystal, mae'r Brifysgol bellach yn bumed yn y DU ar gyfer busnesau graddedigion sydd wedi bod yn masnachu ers o leiaf tair blynedd, gan danlinellu cynaliadwyedd ac effaith hirdymor ei chefnogaeth i fusnesau newydd.

Dywedodd yr Athro Osama Khan, Is-Ganghellor y Brifysgol, fod y canlyniadau'n dangos ymrwymiad parhaus a strategol PDC i entrepreneuriaeth.

“Mae hyn yn newyddion gwirioneddol wych ac yn foment o falchder enfawr i Brifysgol De Cymru,” meddai’r Athro Khan.

“Mae cael ein cydnabod unwaith eto fel y gorau yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd, ac ymhlith y prifysgolion blaenllaw yn y DU, yn gymeradwyaeth bwerus o’n pobl a’n pwrpas.

“Rwyf bob amser wedi credu bod yn rhaid i greadigrwydd, arloesedd a meddwl entrepreneuraidd gael eu hymgorffori’n ddwfn yn y cwricwlwm, nid fel pethau ychwanegol dewisol ond fel sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd a gwaith, ac mae’r cyflawniad hwn yn dweud llawer am ba mor llwyddiannus y mae’r galluoedd hynny bellach yn treiddio ein dysgu a’n haddysgu.

“Yr hyn sy’n fy nghyffroi fwyaf yw, nid yn unig y safle, ond yr hyn y mae’n ei gynrychioli: hyder, cyfle, ac effaith economaidd wirioneddol ar gyfer ein cymunedau.

“Mae PDC yn profi, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ein bod yn brifysgol entrepreneuraidd gydag uchelgais, tosturi, a momentwm, ac ni allwn fod yn fwy optimistaidd ynglŷn â’r hyn y byddwn yn ei gyflawni nesaf gyda’n gilydd.”

Yn 2024/25, cefnogodd PDC greu 116 o fusnesau graddedigion newydd, y cyfanswm uchaf yng Nghymru. Mae'r mentrau hyn yn cwmpasu ystod eang o sectorau, gan gynnwys y diwydiannau creadigol, y cyfryngau digidol, dylunio, iechyd, chwaraeon, addysg a thechnolegau datblygol.

Mae'r llwyddiant parhaus hwn yn adlewyrchu ymrwymiad a rennir ar draws ecosystem entrepreneuraidd PDC, Startup Stiwdio Sefydlu, a Menter Gyrfaoedd PDC, i ddarparu profiad cydgysylltiedig i fyfyrwyr a graddedigion - gan gyfuno cefnogaeth arbenigol ar gyfer mentrau a chymorth deorfa â chanllawiau gyrfaoedd wedi'u teilwra, mentora, cyfleoedd ariannu, lleoliad gwaith, a mynediad at rwydweithiau proffesiynol.

Gyda'i gilydd, ac ochr yn ochr â chysylltiadau cryf â phartneriaid diwydiant rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, maent yn helpu'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid Cymru i droi syniadau yn fusnesau ffyniannus.

Mae cefnogaeth gan Medr - sy'n gyfrifol am ariannu a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol yng Nghymru - a Llywodraeth Cymru hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth alluogi PDC i gyflwyno rhaglenni menter cynhwysol a hygyrch sy'n cefnogi gweithwyr llawrydd, sylfaenwyr a busnesau newydd twf uchel.

“Nid yn ddamweiniol y mae PDC wedi codi i'r safle cyntaf yng Nghymru a'r seithfed yn y DU ar gyfer busnesau newydd gan raddedigion. Y tu ôl i'r ffigurau mae dwy flynedd o waith cwricwlwm bwriadol, gan ymgorffori menter ac entrepreneuriaeth ar draws 37 o gyrsiau a gwella sgiliau 143 o aelodau staff ledled y brifysgol,” meddai Jonathan Jones, Rheolwr Datblygu Entrepreneuriaeth PDC.

“Mae hyn hefyd wedi cynnwys cefnogaeth dargedig ar draws Grŵp PDC, gyda gwella gweithgaredd yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Nid rhywbeth atodol yw menter yn PDC, mae'n rhan o sut mae'r brifysgol yn addysgu.

“Ac nid annog graddedigion i gychwyn menter yn unig a wnawn, mae gennym hefyd ystod o fentrau sy'n canolbwyntio ar gynyddu cyfradd goroesi eu busnesau yn y tymor hir, a fydd, yn ei dro, yn creu swyddi newydd ar gyfer rhanbarth De Cymru.”

Dywedodd Dr Lyndsay Crompton (yn y llun), sydd bellach yn rhedeg ei busnes ceiropracteg ei hun yng Nghasnewydd ar ôl cwblhau gradd Meistr yn PDC, fod y Brifysgol a'i Startup Stiwdio Sefydlu wedi chwarae rhan allweddol wrth lunio ei datblygiad proffesiynol a thwf ei busnes.

“Trwy sylfaen academaidd gref, fe wnaeth fy arfogi â'r wybodaeth glinigol, y sgiliau meddwl beirniadol, a'r hyder sydd eu hangen i ddarparu gofal o ansawdd uchel i'm cleifion,” meddai.

“Y tu hwnt i academyddion, mae'r Stiwdio yn meithrin meddylfryd entrepreneuraidd trwy annog arloesi, datrys problemau, a meddwl annibynnol.

“Mae'r gefnogaeth gan ddarlithwyr a mentoriaid wedi bod yn amhrisiadwy, gan gynnig arweiniad nid yn unig mewn ymarfer clinigol ond hefyd wrth lywio'r heriau o gychwyn a rheoli busnes.

“Helpodd mynediad at adnoddau fel gweithdai busnes, cyfleoedd rhwydweithio, a chyngor cychwyn busnes newydd fi i gael gwell dealltwriaeth o frandio, perthnasoedd â chleientiaid, a strategaethau twf cynaliadwy.

“Yn gyffredinol, creodd PDC amgylchedd a gefnogodd fy nhrawsnewidiad o fyfyriwr i ymarferydd ac entrepreneur, gan fy ngrymuso i adeiladu busnes ceiropracteg sy'n canolbwyntio ar y claf ac yn fasnachol hyfyw a phroffidiol.”

Mae'r Athro Professor Osama Khan yn ymuno â Phrifysgol De Cymru heddiw fel ein His-ganghellor a'n Prif Weithredwr newydd...
05/05/2026

Mae'r Athro Professor Osama Khan yn ymuno â Phrifysgol De Cymru heddiw fel ein His-ganghellor a'n Prif Weithredwr newydd.

Dywedodd yr Athro Khan: “Mae’n anrhydedd wirioneddol i mi ymuno â’r gymuned hon. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi treulio amser yn gwrando, yn dysgu ac yn adlewyrchu. Rwyf wedi darllen am ein hanes, ein cyflawniadau.

“Ond yr hyn sydd wedi aros gyda mi fwyaf yw'r bobl, y gofal, yr ymrwymiad a'r penderfyniad tawel i wneud gwahaniaeth. Ac mae hynny'n bwysig, oherwydd mae prifysgolion fel ein un ni yn newid bywydau. Rwy’n falch o ymuno â’r Brifysgol fel Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr.”

Mae'r Athro Khan yn ymuno â ni o Brifysgol Aston, lle bu'n Ddirprwy Is-Ganghellor (Academaidd). Gyda mwy na 27 mlynedd o brofiad addysgu mewn rolau cyllid ac arwain ar draws prifysgolion y DU, mae ganddo hanes cryf o arloesi ym myd y cwricwlwm, dysgu gydol oes, cyflogadwyedd, a thrawsnewid digidol.

Mae ei ddyfodiad yn nodi pennod newydd gyffrous i Brifysgol De Cymru wrth i ni barhau i gyflawni ein cenhadaeth i drawsnewid bywydau a chymunedau drwy addysg, ymchwil ac arloesedd.

Croeso i'r Athro Khan!

Dal heb benderfynu? Mae hynny'n hollol normal. Mae dewis prifysgol yn gam mawr, ond dylai deimlo'n iawn. Os ydych chi'n ...
22/04/2026

Dal heb benderfynu? Mae hynny'n hollol normal.

Mae dewis prifysgol yn gam mawr, ond dylai deimlo'n iawn.

Os ydych chi'n chwilio am le sy'n cefnogi eich nodau, yn meithrin eich hyder ac yn eich paratoi ar gyfer yr hyn sydd nesaf. Rydych chi yn y lle iawn.

Buddugoliaethau mawr i Ffilm ac Animeiddio USW 🎬Enillodd myfyrwyr a graddedigion wyth o wobrau yng Ngwobrau RTS Cymru Wa...
22/04/2026

Buddugoliaethau mawr i Ffilm ac Animeiddio USW 🎬

Enillodd myfyrwyr a graddedigion wyth o wobrau yng Ngwobrau RTS Cymru Wales 2026, gyda llwyddiannau mewn animeiddio, drama a ffeithiol.

Gwaith gwych iawn wedi’i gydnabod – llongyfarchiadau i bawb 👏

Darllenwch y stori lawn 🔗👇 Dolen yn y sylwadau

Poeni am gostau byw yn y brifysgol? Dim chi yw’r unig un. Dyna pam rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o gefnogaeth - o gymorth...
14/04/2026

Poeni am gostau byw yn y brifysgol? Dim chi yw’r unig un.

Dyna pam rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o gefnogaeth - o gymorth ariannol i wasanaethau lles - fel y gallwch chi ganolbwyntio ar eich astudiaethau, nid y straen.

Nid eich gradd seicoleg nodweddiadol 👀 Felly fe fyddwch chi’n cael y canlynol👇 🧠 profiad go iawn  📍 mynd ar leoliad  🎓 g...
10/04/2026

Nid eich gradd seicoleg nodweddiadol 👀

Felly fe fyddwch chi’n cael y canlynol👇
🧠 profiad go iawn
📍 mynd ar leoliad
🎓 graddio gyda rhywbeth y mae cyflogwyr yn ei gydnabod

Felly pan fyddwch chi'n graddio ... rydych chi eisoes ar y blaen!

💻https://orlo.uk/Ny0Ap

At be mae eich gradd yn arwain go iawn? Yn PDC, nid dim ond yr hyn rydych chi'n ei astudio sy'n bwysig - ond ble y gall ...
07/04/2026

At be mae eich gradd yn arwain go iawn?

Yn PDC, nid dim ond yr hyn rydych chi'n ei astudio sy'n bwysig - ond ble y gall hynny eich tywys.

O leoliadau i brosiectau yn y byd go iawn, mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan ystyried eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau bellach ar gau ar gyfer Penwythnos y Pasg a byddant yn ailagor Ddydd Mawrth 7 Ebrill.M...
02/04/2026

Mae'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau bellach ar gau ar gyfer Penwythnos y Pasg a byddant yn ailagor Ddydd Mawrth 7 Ebrill.

Mae rhestr lawn o oriau agor y Pasg ar gael ar UniLife 🔗 Dolen isod 👇

🌼 Pasg hapus 🐰

Dal i benderfynu? Dewch i'w brofi drosoch eich hun. Ein Diwrnod Ymgeiswyr yw eich cyfle i archwilio eich cwrs, cwrdd â'c...
01/04/2026

Dal i benderfynu? Dewch i'w brofi drosoch eich hun.

Ein Diwrnod Ymgeiswyr yw eich cyfle i archwilio eich cwrs, cwrdd â'ch darlithwyr a chael teimlad go iawn o fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru.

Dim llyfrynnau. Dim dyfalu. Dim ond cipolwg go iawn ar sut y gallai eich blynyddoedd nesaf fod.

Sicrhewch eich lle a gweld a yw'n teimlo'n iawn.

Address

University Of South
Pontypridd
CF371DL

Opening Hours

Monday 8:30am - 5pm
Tuesday 8:30am - 5pm
Wednesday 8:30am - 5pm
Thursday 8:30am - 5pm
Friday 8:30am - 4:30pm

Telephone

+443455767778

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Prifysgol De Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share