Prifysgol Abertawe

Prifysgol Abertawe Croeso i dudalen Facebook swyddogol Prifysgol Abertawe! Siarad Saesneg? Dilynwch ein cyfrif

Ymuna â ni'n Fyw ar TikTok a 4 Mehefin✨Byddwn yn siarad am lety a chymorth i fyfyrwyr💙🔗Cofrestra nawr  swan.ac/TikTokLiv...
03/06/2026

Ymuna â ni'n Fyw ar TikTok a 4 Mehefin✨

Byddwn yn siarad am lety a chymorth i fyfyrwyr💙

🔗Cofrestra nawr swan.ac/TikTokLive

Rydyn ni'n trawsnewid dyfodol gofal cardiometabolaidd 🫀 Mae ymchwil, a arweinir gan y clinigwr diabetes, yr Athro Steve ...
03/06/2026

Rydyn ni'n trawsnewid dyfodol gofal cardiometabolaidd 🫀

Mae ymchwil, a arweinir gan y clinigwr diabetes, yr Athro Steve Bain ym Mhrifysgol Abertawe, yn newid canlyniadau i bobl sy'n byw gyda diabetes math 2 a risg gardiofasgwlaidd uchel.

Clefyd cardiofasgwlaidd yw prif achos marwolaethau yn y grŵp hwn o hyd; fodd bynnag, mae datblygiadau mewn therapïau GLP-1, gan gynnwys semaglutide, yn newid y dirlun o ran triniaethau ac yn helpu pobol i fyw yn fwy hir ac iach.

Drwy dreialon clinigol byd-eang, mae ymchwilwyr Abertawe wedi profi diogelwch, effeithiolrwydd a hyblygrwydd y triniaethau, sydd bellach yn cael eu cymeradwyo gan ganllawiau meddygol rhyngwladol mawr. Yn ogystal â'u defnydd mewn gofal metabolaidd, mae semaglutide hefyd yn cefnogi rheoli pwysau cronig.

Mae'r ymchwil arloesol hon yn dylanwadu ar ymarfer clinigol yn fyd-eang, gan wella canlyniadau i gleifion a hyrwyddo Abertawe fel prifysgol sy'n arwain y ffordd o ran arloesi gofal cardiometabolaidd.

🔗 Darllenwch fwy: swansea.ac.uk/cy/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/arloesi-ym-maes-iechyd/lleihau-risg-cardiofasgwlaidd-mewn-diabetes/

02/06/2026

O UDA i Abertawe 🌍🏉

Ar ôl i Brifysgol Abertawe gael ei hargymell drwy rygbi, darganfu Anastasia ddinas llawn cyfle, cymuned a golygfeydd arfordirol hyfryd. Bellach yn astudio ei gradd Meistr wrth chwarae ar y tîm rygbi, mae hi wedi gwneud yn fawr o fywyd academaidd a bywyd myfyrwyr yma ym Mhrifysgol Abertawe! 💙

Prifysgol Abertawe ar y brig yn y DU am ragoriaeth mewn pynciau 🎉Rydym yn falch o gyhoeddi bod Prifysgol Abertawe wedi c...
02/06/2026

Prifysgol Abertawe ar y brig yn y DU am ragoriaeth mewn pynciau 🎉

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod gan Unifresher fel Prifysgol orau'r DU am ragoriaeth mewn pynciau.

Cyflawnodd Prifysgol Abertawe'r perfformiad cryfaf ar lefel pwnc yn genedlaethol o blith 124 o brifysgolion y DU sydd wedi'u cynnwys yn y rhestr. Cofnodwyd:

🔹21 safle cyntaf mewn pynciau
🔹36 safle yn y pump uchaf
🔹 40 safle yn y 10 uchaf

O Seicoleg a Chemeg i , Sŵoleg a Gwyddor Chwaraeon, mae’r canlyniadau’n dangos ein hymroddiad i ddarparu addysg, cefnogaeth a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr.

🔗 Darllenwch fwy: swansea.ac.uk/cy/swyddfar-wasg/newyddion-a-digwyddiadau/newyddion/2026/05/prifysgol-abertawe-ar-y-brig-yn-y-du-am-ragoriaeth-mewn-pynciau-yn-ol-unifresher-syn-cyhoeddi-canllaw-amgen-i-brifysgolion.php

Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod gan Unifresher fel Prifysgol orau'r DU am ragoriaeth mewn pynciau – gan gyflawni mwy o safleoedd...

Dim ond 2 wythnos i fynd tan ein Diwrnod Agored ar 13 Mehefin💙Cadwa dy le nawr drwy'r ddolen swansea.ac.uk/cy/diwrnodau-...
30/05/2026

Dim ond 2 wythnos i fynd tan ein Diwrnod Agored ar 13 Mehefin💙

Cadwa dy le nawr drwy'r ddolen swansea.ac.uk/cy/diwrnodau-agored/

Edrychwn ymlaen at arddangos popeth am Brifysgol Abertawe!

Mae gwyliau'r haf ar y gorwel ☀️Pob lwc i bawb sy'n sefyll eu harholiadau, byddwch wych!
29/05/2026

Mae gwyliau'r haf ar y gorwel ☀️

Pob lwc i bawb sy'n sefyll eu harholiadau, byddwch wych!

Ar draws y DU, mae llawer o bobl LHDTCRhA+ yn parhau i brofi unigrwydd ac allgáu yn ogystal â phroblemau sy'n cael eu dw...
29/05/2026

Ar draws y DU, mae llawer o bobl LHDTCRhA+ yn parhau i brofi unigrwydd ac allgáu yn ogystal â phroblemau sy'n cael eu dwysáu gan wahaniaethu, rhagfarn ddiwylliannol a dileu hanesion cwiar yn yr hirdymor 🏳️‍🌈

Mae Dr Charlotte Jones yn archwilio sut gall creadigrwydd a deialog agored fynd i'r afael â hyn, a chryfhau ymdeimlad o berthyn mewn cymunedau LHDTCRhA+.

Drwy greu cyfleoedd i rannu profiadau, cynnal trafodaeth a mynegiant, mae ei gwaith yn amlygu pwysigrwydd mannau cynhwysol lle bydd unigolion yn cael eu gweld, eu clywed ac yn gallu cysylltu.

Mae'r gwaith ymchwil hwn nid yn unig yn dyfnhau ein dealltwriaeth o unigrwydd ond hefyd yn dangos sut gall ymagweddau a arweinir gan gymunedau wneud gwahaniaeth ystyrlon i les.

🔗 Darllenwch fwy: https://www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/diwylliant-cyfathrebu-a-threftadaeth/unigrwydd-a-pherthyn-yn-y-boblogaeth-lgbtq-/

Mae deall y cysylltiadau rhwng rhywedd, pŵer a thrais yn allweddol i fynd i'r afael â rhai o heriau cymdeithasol mwyaf d...
28/05/2026

Mae deall y cysylltiadau rhwng rhywedd, pŵer a thrais yn allweddol i fynd i'r afael â rhai o heriau cymdeithasol mwyaf dybryd ein hoes ⚥

Y rhaglen gyntaf o'i bath yng Nghymru, mae ein MA mewn Rhywedd, Pŵer a Thrais yn cynnig safbwynt rhyngddisgyblaethol, wedi'i lywio gan ymchwil, ar drais sy'n seiliedig ar rywedd, anghydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol mewn cyd-destunau lleol a byd-eang.

Mae'r cwrs yn cyfuno damcaniaeth feirniadol a dysgu cymhwysol, gan gynnwys defnydd arloesol o realiti rhithwir i archwilio ymagweddau newydd at atal trais yn erbyn menywod.

🔗 Rhagor o wybodaeth: swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/addysgir/gwyddorau-cymdeithasol/troseddeg-cymdeithaseg-polisi-cymdeithasol/ma-pgdip-rhywedd-pwer-thrais/

Mae'r haul yn gwenu ar gampws Singleton! ☀️🌳
27/05/2026

Mae'r haul yn gwenu ar gampws Singleton! ☀️🌳

Pob lwc i Jingning Zhang, a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Study UK y Cyngor Prydeinig i Gyn-fyfyrwyr yn UDA! 🎉🇺🇸 Un...
22/05/2026

Pob lwc i Jingning Zhang, a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Study UK y Cyngor Prydeinig i Gyn-fyfyrwyr yn UDA! 🎉🇺🇸

Un o raddedigion Prifysgol Abertawe (MSc Marchnata 2015), mae taith Jingning yn arddangos gwir bŵer addysg y DU. O alldaith 22 o ddiwrnodau i'r Antarctig, cynnal 6 i 8 sesiwn faes ddyddiol, casglu data ar draws 50+ o safleoedd a chofnodi dros 200 o arsylwadau bywyd gwyllt, i waith llawn effaith mewn ymchwil i’r hinsawdd, addysg a pholisi cymdeithasol, mae'n cyfuno meddwl yn ddadansoddol ag effaith yn y byd go iawn.

Mae ei hymdrechion yn ymestyn y tu hwnt i ymchwil: mentora 10 o fyfyrwyr, cymryd rhan mewn 5 ffair addysg ryngwladol ac ysbrydoli dros 200 o ddilynwyr drwy ei phlatfform "Swansea Journey".

Mae Jingning yn parhau i rymuso myfyrwyr y dyfodol ledled y byd!

Address

Prifysgol Abertawe, Parc Singleton
Skewen
SA28PP

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Prifysgol Abertawe posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The University

Send a message to Prifysgol Abertawe:

Share