27/04/2026
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 2026 (PCYDDS) yn falch o ddatgan bod dau fyfyriwr Coleg Celf Abertawe, Em Dorion ac Eve Slatter wedi’u dewis ar gyfer y rhaglen uchel ei bri, Invigilator+ Cymru yn Fenis 2026, rhan o’r 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia.
Mae Em Dorion ac Eve Slatter yn astudio BA Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS. Mae cael eu dewis ar gyfer y rhaglen hon yn amlygu cryfder dull a arweinir gan stiwdio y brifysgol a’i hymrwymiad i feithrin artistiaid uchelgeisiol sydd wedi’u hymgysylltu’n feirniadol.
Mae’r rhaglen Invigilator+ a arweinir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cynnig y cyfle i artistiaid ar ddechrau eu gyrfa, curaduron a myfyrwyr dreulio amser yn Fenis yn gweithredu fel llysgenhadon i Wales in Venice / Cymru yn Fenis. Mae cyfranogwyr yn datblygu profiad proffesiynol amhrisiadwy wrth gefnogi’r arddangosfa gan ymgysylltu â chynulleidfa ryngwladol yn un o ddigwyddiadau celf gyfoes fwyaf arwyddocaol y byd.
Meddai Alex Duncan, Darlithydd mewn Celf Gain ac MA Dialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS: “Mae cyfleoedd fel Invigilator+ yn drawsnewidiol i artistiaid sy’n dod i’r amlwg. Bydd Em ac Eve yn cael eu trochi mewn amgylchedd sy’n dwyn ynghyd arfer cyfoes arloesol â chyd-destun hanesyddol cyfoethog Fenis. Mae profiadau fel hyn nid yn unig yn ehangu eu dealltwriaeth o rwydweithiau celf byd-eang ond hefyd eu hyder fel ymarferwyr sy’n llywio tirwedd greadigol gymhleth ac esblygol.”
Cefnogir y bartneriaeth yn garedig gan Etifeddiaeth Goffa Brian Ross.
📷 Iolo Penri